top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Gŵyl Cynlluniwch eich ymweliad
start content

Cynlluniwch eich ymweliad

Mae Venue Cymru o fewn 10 munud o bob prif gyswllt cludiant. Gallwch ddod o hyd i ni drwy chwilio am ein cod post:  LL30 1BB

Mewn Car:


Mae Venue Cymru 4 milltir i ffwrdd o’r A55 ac yn cymryd tua 8 munud yn y car, gan gynnig mynediad o bob rhan o’r Gogledd Orllewin a thu hwnt ar yr M62/M56. 

O Gyffordd 19 o’r A55, dilynwch yr arwyddion i Landudno a chymerwch yr A470 (Ffordd y Cymry Brenhinol), yna dilynwch yr arwyddion ffordd brown ar gyfer Venue Cymru.

Parcio:


Mae gan Venue Cymru beiriant Talu ac Arddangos yng nghefn yr adeilad, gyda llefydd parcio i’r anabl i’r chwith o’r brif fynedfa. 

Gellir parcio ar y Promenâd hefyd ac mae yna beiriant Talu ac Arddangos yno hefyd tan 4pm, yna bydd yn rhad ac am ddim.

Tariff Talu ac Arddangos

  • 2 awr - £1.60
  • 4 awr - £3.20
  • 10 awr - £5.20
  • 24 awr - £10.00
  • Nos (6pm - 8am) £2.10


Gall y prisiau newid.Gallwch dalu am barcio drwy ddefnyddio arian parod, cerdyn neu drwy ddefnyddio’r ap parcio PayByPhone.

Gallwch lawrlwytho’r ap yma - https://paybyphone.co.uk.

Os byddwch chi’n defnyddio’r ap yma, mae’n rhaid i chi greu cyfrif, a rhif y maes parcio ydi 804457.

Parcio ar y Promenâd - Talu ac Arddangos

Rhaid talu o 10am - 4pm

Y gaeaf: 1 Hydref - 30 Ebrill

  • 4 awr - £2.60
  • Dros 4 awr - £3.70

Deiliaid bathodynnau glas.

Gall y prisiau newid.

Gallwch ddod o hyd i feysydd parcio Talu ac Arddangos ychwanegol yn Llandudno yma - https://bit.ly/2t50JZp 

Ar y Bws


Mae sawl gwasanaeth bws yn mynd heibio cefn Venue Cymru (o flaen y maes parcio):

  • 12 – Gorsaf Bws y Rhyl – Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 10 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn.  Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul. 
  • 5 / X5 – Bangor – Gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg bob tua 20 munud tan 6pm, yna bob tua 60 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn.  Gwasanaeth cyfyngedig ar ddydd Sul. 
  • X1 – Blaenau Ffestiniog – drwy Lanrwst a Betws-y-Coed - Gwasanaeth rheolaidd yn rhedeg bob tua 60 munud, dydd Llun – dydd Sadwrn.  Gwasanaeth yn rhedeg bob tua 3 awr ar ddydd Sul. 


Am fwy o wybodaeth ar wasanaethau bysus Llandudno, cliciwch yma.

 Ar y Trên


Mae Venue Cymru tua 10 munud o daith cerdded o orsaf drên Llandudno (Prif Lein Arfordir y Gorllewin) a Chanol Tref Llandudno.

Os ydych yn gadael gorsaf Llandudno, trowch i’r chwith a dilyn Vaughan Street, a pharhau i Mostyn Broadway O yma, parhewch i lawr Mostyn Broadway a bydd Venue Cymru ar y chwith, heibio Canolfan Nofio Llandudno.

Gwybodaeth Fyw am Orsaf Llandudno

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content