Ynglyn
Helo a chroeso i Ŵyl Gorau Ryngwladol Gogledd Cymru!
Mae 2022 yn argoeli i fod yn flwyddyn ardderchog. Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r penwythnos prysur yma, a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymuno â ni yn nhref glan môr Fictorianaidd hyfryd Llandudno ar 5 - 6 Mawrth.
Mae’r Ŵyl wedi croesawu corau o bob cwr o'r byd i gystadlu yn y dathliad arbennig hwn o gerddoriaeth. Wedi ei lleoli yn Venue Cymru, mae gan Ŵyl Gorau Gogledd Cymru amrywiaeth o gategorïau at ddant pawb drwy gydol y penwythnos.
Wedi ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, mae’r gystadleuaeth wedi mynd o nerth i nerth.
Mae’n cael ei hystyried yn un o wyliau corawl gorau Cymru ac yn enwog am ei hawyrgylch gyfeillgar – dyma benwythnos sy’n addas ar gyfer unrhyw aelod o gôr.
Mae’r wŷl gorawl hon wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd, gan ddatblygu o’r Ŵyl Sealink wreiddiol flynyddoedd yn ôl.
Rydych yn siŵr o gael penwythnos yn llawn o dalent cerddorol a hwyl, a hynny os byddwch yn y gynulleidfa neu’n cystadlu gyda chôr!
Dyma gategorïau’r cystadlaethau ar gyfer 2022:
Dydd Sadwrn yn cychwyn am 10am:
- Corau Meibion
- Corau Ieuenctid
- Corau Cymysg
Dydd Sul yn cychwyn am 10am:
- Arddull Siop Barbwr
- Ychydig o Hwyl
- Corau Merched
Datganiad Covid 19:
Rydym yn parhau i gynllunio ar gyfer digwyddiad 2022 a byddwn yn gweithredu, gwerthu tocynnau a derbyn cofrestriadau fel arfer. Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a byddwn yn diweddaru ein tudalennau ar y we a’n cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol.