top-skip-iconNeidio i’r cynnwys English IconEnglish
Galwch ni ar 01492 577839
 
Title

Text
cy Ynglyn Cyngherddau
start content

Cyngherddau

Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein rhaglen gyngherddau wedi ymestyn o nos Sadwrn i gynnwys cyngerdd agoriadol ar y nos Wener hefyd! 

Rydym yn ceisio trefnu rhywbeth arbennig i gychwyn pob gŵyl mewn steil! Yn y gorffennol cafwyd perfformiadau gan Only Boys Aloud ac artistiaid o Opera Cenedlaethol Cymru.

Cynhelir cyngerdd y Corau ar y nos Sadwrn lle bydd corau sydd wedi cystadlu yn ystod y dydd yn cofrestru o flaen llaw i gael perfformio ar y llwyfan eto, heb orfod poeni am blesio’r beirniaid! Mae Cyngerdd y Corau ar nos Sadwrn yn cynnwys amrywiaeth liwgar o bob math o arddulliau corawl a fydd yn siŵr o gyfareddu’r gynulleidfa.  

Dewch yn ôl i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn rydym wedi ei drefnu ar gyfer Cyngerdd Agoriadol 2024 a mwy.

Dyma ychydig o luniau o gyngherddau blaenorol: Oriel cyngherddau blaenorol

 



Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content