Rheolau a Rheoliadau
Cymhwyster i Gystadlu
1. 1. Oedran: Rhaid i bawb sy’n dymuno cystadlu yng Nghategori 1 (Côr Un Llais), Categori 2 (Côr Cymysg), Categori 4 (Categori Agored). Mae Categori 3 (Lleisiau Ifanc) ar gyfer unrhyw oedran i fyny at, ac yn cynnwys 18 oed.
2. Mae’n rhaid cael o leiaf 8 aelod a dim mwy na 100 o aelodau ymhob côr. Os oes mwy neu lai o aelodau na hynny cysylltwch â’r trefnydd.
3. Ni chaniateir i gorau sydd wedi ennill eu categori dair blynedd yn olynol i gystadlu eto’r flwyddyn honno yn y categori hwnnw, ond gellir ail-afael ynddi’r flwyddyn wedyn.
Repertoire
4. Mae gan yr holl gorau isafswm o 8 munud ac uchafswm o 15 munud o amser canu, lle byddan nhw’n canu cymaint o ddarnau cyferbyniol o gerddoriaeth ag y dymunent, gyda neu heb gyfeiliant. Nodwch fod rhaid cadw at yr amseroedd a bydd unrhyw gorau yn cael eu cosbi am fynd dros y cyfyngiad amser fel a ganlyn:
Cosb am Fynd dros yr Amser:
I fyny at 30 eiliad - Dim
30 eiliad - 1 munud 1 marc
1 munud - 1.5 munud 2 farc
1.5 munud - 2 munud 4 farc
2 munud - 3 munud 6 farc
3 munud - 4 munud 8 farc
Dros 4 munud – 10 marc
5. Dim ond unwaith y caniateir i gorau ganu un darn o gerddoriaeth yn yr Ŵyl (h.y. mae angen rhaglen ar wahân ar gyfer pob dosbarth a gymerir rhan ynddynt).
6. Penderfyniad y beirniaid sy’n derfynol ym mhob agwedd o’r gystadleuaeth.
7. Dydi Gŵyl Gorau Gogledd Cymru ddim yn derbyn traciau cefndirol ar gyfer cystadleuwyr ar wahân i Gategori 4 (Categori Agored) Darperir piano ar y llwyfan i’ch cyfeilydd.
Hawliau Darlledu a Recordio
8. Mae’n amod y dylai pob côr gytuno iddo wrth gymryd rhan:
a. Bod unrhyw berfformiad yn ystod GGGC yn cael ei ddarlledu’n fyw, ei recordio ac/neu’n cael ei ffotograffio ar gyfer darllediad wedi hynny ar y radio, teledu, ar-lein neu/a CD, a hynny heb dalu’r côr. Mae’r holl hawliau darlledu i unrhyw berfformiad yn yr Ŵyl yn eiddo i’r Ŵyl ac felly’n rhydd i gael gwared arnynt pan fo hynny’n briodol.
b. Bod unrhyw berfformiad gan gôr yn ystod GGGC o bosib, heb daliad, yn cael ei recordio a bod gan y trefnwyr hawl i feddu ar recordiad o’r fath a gyda hawl pellach i ailgynhyrchu unrhyw recordiad o’i fath i’w werthu, i’w logi, cynnig ei werthu neu logi, dosbarthu, neu fel arall i gael gwared ar unrhyw recordiad neu ail-gynhyrchiad o recordiad o unrhyw berfformiad mewn modd y gwelir yn briodol.
c. Yn unol â hawliau perfformio ni chaniateir defnyddio offer fideo, sain neu gamerâu yn ystod unrhyw un o’r cystadlaethau ar wahân i ffotograffydd swyddogol yr Ŵyl.
d. Offerynnau cerddorol – rhowch wybod i’r trefnwyr o flaen llaw os oes gennych offerynnau cerddorol ychwanegol i’w cynnwys ar y llwyfan.
e. Mae’n rhaid cyflwyno traciau cefndirol mewn fformat MP3 ar ffon USB neu ar un CD yn y drefn gywir ar gyfer y perfformiad, ac mae’n rhaid i’r sain fod o’r safon uchaf posib. Sicrhewch fod y traciau cefndirol yn cael eu hanfon i mewn cymaint ag sy’n bosib o flaen llaw.
Cyffredinol
9. Derbynnir ceisiadau hwyr mewn amgylchiadau eithriadol yn unig.
10. Ni chaniateir i gorau berfformio ar y llwyfan cyn y gystadleuaeth, ond byddan nhw’n cael 15 munud i ymarfer mewn ystafell ymarfer benodol.
11. Bydd corau yn cael eistedd i wylio perfformiadau yn eu categori. Fodd bynnag, rhaid prynu tocyn i weld unrhyw ddosbarthiadau eraill. Rhaid talu ffioedd mynediad gan holl westeion eraill y côr.
12. Oherwydd deddfwriaeth hawlfraint dydi Gŵyl Gorau Gogledd Cymru ddim yn derbyn cyfrifoldeb am ail-gynhyrchiad anghyfreithlon o’r gerddoriaeth. Bydd unrhyw gorau sy’n cystadlu ac yn dewis gwneud hynny yn destun atebolrwydd.
13. Mae tri chopi o bob cerddoriaeth ei angen fel bod gan y tri beirniad gopi. Gellir anfon y copïau hyn yn ddigidol drwy e-bost neu fel copïau caled i gyfeiriad Venue Cymru, os yw’n well gennych eu postio.
14. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i newid yr amserlen yn unol â nifer y ceisiadau a dderbyniwyd ar gyfer pob categori.
15. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i gyfyngu’r nifer o geisiadau ar gyfer pob categori.
16. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i ganslo categori os oes nifer annigonol o geisiadau.
17. Mae trefnwyr yn cadw’r hawl i wrthod mynediad.
18. Mae cymryd rhan yn GGGC yn golygu eich bod yn derbyn yr holl reolau a rheoliadau.
19. Nid o dan unrhyw amgylchiadau y caniateir symud y piano yn ystod yr Ŵyl gan ei fod wedi cael ei osod a’i diwnio’n briodol. Ffoniwch neu anfonwch e-bost gyda’ch ymholiad a bydd modd anfon llun o leoliad y piano atoch.
20. Mae’n rhaid i gorau osod eu hunain ar yr esgynnydd corol yn unol â’r marc yng nghanol y llwyfan.
21. Mae gan yr esgynnydd corol 4 rhes/gris a rheiliau ochr. Mae’r rhes flaen yn 21 troedfedd o hyd, a’r rhes gefn yn 30 troedfedd o hyd. Mae dyfnder o 11 troedfedd. Mae’r fanyleb ar gael ar gais.
22. Nid o dan unrhyw amgylchiadau y caniateir gwneud ymarferion sain yn yr Arena o flaen llawn, hyd yn oed os mai traciau cefndirol a ddefnyddir.
23. Mae cyfyngiad i 8 o gorau ymhob categori. Unwaith y cyrhaeddir y cyfyngiad hwnnw bydd corau yn cael eu cynnwys ar y rhestr aros a fydd yn cael ei reoli ar sail gyntaf i’r felin os bydd corau yn tynnu allan o’r gystadleuaeth.
24. Mae’n rhaid i aelodau o’r gynulleidfa adael yr Arena ar ddiwedd pob categori (hyd yn oed os ydyn nhw wedi prynu tocyn diwrnod). Mae hyn er mwyn newid y nifer o seddi sy’n cael eu dyrannu ar gyfer y corau sy’n cystadlu.
Tlysau ac Arian fel Gwobr (Pob Dosbarth)
- Tlws a £500 ar gyfer y safle buddugol
- Tlws a £200 ar gyfer yr ail safle
- Tlws a £100 ar gyfer y trydydd safle
Amserlen:
- Cystadleuaeth ar gyfer Categorïau 1 a 2 yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 4 Mawrth am 10am*.
- Cystadleuaeth ar gyfer Categorïau 3 a 4 yn dechrau ar ddydd Sul, 5 Mawrth am 10am*.
*Gall amseroedd newid.Bydd y beirniaid yn rhoi beirniadaeth a chanlyniadau ar ddiwedd bob dosbarth.
Ymholiadau:
E-bost: gŵylgoraugogleddcymru@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492577839